Y Panel
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cefnogi ac yn craffu ar waith y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Mae'r Panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys; ac o leiaf ddau aelod annibynnol. Cyngor Sir Caerfyrddin yw awdurdod arweiniol y Panel.
Ein gwaith
Mae'r Panel yn cymryd lle Awdurdod yr Heddlu ac mae ganddo nifer o bwerau a chyfrifoldebau, gan gynnwys:
- Adolygu cynllun heddlu a throseddu'r Comisiynydd
- Adolygu cyllideb ddrafft flynyddol y Comisiynydd, a'r pŵer i roi feto ar lefel y praesept
- Ymdrin â chwynion ynghylch y Comisiynydd neu ei ddirprwy
- Craffu ar benderfyniadau a chamau gweithredu gan y Comisiynydd
- Adolygu'r bwriad i benodi neu i ddiswyddo'r Prif Gwnstabl
- Cefnogi gwaith y Comisiynydd
- Rhoi adroddiadau neu argymhellion i'r Comisiynydd
- Adolygu ymddygiad y Comisiynydd
Ni all y Panel graffu ar Heddlu Dyfed-Powys na'i waith.
I gael rhagor o wybodaeth am y Paneli Heddlu a Throseddu, edrychwch ar wefan y Swyddfa Gartref.