Polisi preifatrwydd

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

  1. At ba ddiben rydym yn defnyddio'ch eich gwybodaeth?

Rydym yn casglu eich data personol er mwyn galluogi Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i gyflawni ei swyddogaethau statudol, gan gynnwys;

  1. Prosesu cwynion yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  2. Dal y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i gyfrif am gyflawni ei ddyletswyddau statudol
  3. Galluogi aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Panel

Byddwn yn defnyddio eich data personol at y dibenion hyn unig.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw ei bod yn angenrheidiol er mwyn i'r Panel Heddlu a Throseddu gydymffurfio a'i rwymedigaethau statudol dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 a Deddf Llywodraeth Leol 1972

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol (sensitif) unrhyw gategori arbennig yw rhesymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail y deddfwriaethau y cyfeiriwyd atynt uchod.

  1. Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?
  1. Aelodau'r Panel:
  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Ffôn Cyswllt
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Manylion cyflogaeth
  • Ffotograffau
  • Delweddau a deunydd a recordiwyd mewn cyfarfodydd sy’n cael eu gweddarlledu
  • Barn Wleidyddol
  1. Aelodau'r cyhoedd:
  • Enwau
  • Manylion cyswllt (cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost)
  • Manylion am unrhyw gŵyn neu broblem yr hoffech chi ddwyn at sylw'r Panel
  • Delweddau a deunydd a recordiwyd mewn cyfarfodydd sy’n cael eu gweddarlledu
  1. A ydym yn defnyddio gwybodaeth o ffynonellau eraill?

Ydym. Byddwn yn cael gwybodaeth gan Heddlu Dyfed-Powys, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, y Swyddfa Gartref, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.

Bydd math a swm y data personol yn dibynnu ar yr amgylchiadau a natur y mater y mae'r Panel yn ymdrin ag ef, fodd bynnag, gall hyn gynnwys manylion am gwynion a honiadau yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a'i ymateb iddynt.

  1. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Caiff agendâu, adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd y Panel eu cyhoeddi ar wefan y Panel a gellir cael mynediad i'r wefan ledled y byd ar y rhyngrwyd.

Caiff unrhyw fideo o gyfarfodydd y Panel eu gweddarlledu drwy wefan y Panel a gellir cael mynediad i'r wefan ledled y byd ar y rhyngrwyd. 

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ddata personol arall y tu allan i'r Deyrnas Unedig

  1. Pwy sydd â mynediad i'ch gwybodaeth?

Byddwn yn rhannu eich data personol â;

  1. Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a/neu
  2. Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu
  3. Aelodau'r Panel
  4. Swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin sef awdurdod cynnal y Panel

Pan fo angen i ni wneud hynny er mwyn cyflawni swyddogaethau statudol y Panel.

Pan fyddwch yn cyflwyno cwestiwn i'r Panel i'w gynnwys ar agenda ffurfiol cyfarfod y Panel, byddwn yn cyhoeddi eich enw (ond nid eich cyfeiriad) fel rhan o'r agenda ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Gellir cael mynediad i'r wybodaeth honno ledled y byd ar y rhyngrwyd.

Pan fydd y Panel Heddlu a Throseddu yn penderfynu gweddarlledu ei gyfarfodydd, gellid hefyd cael mynediad at unrhyw weddarllediad a sain ledled y byd ar y rhyngrwyd.

 

  1. Pa mor hir byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?

Byddwn yn cadw data personol Aelodau'r Panel am 6 blynedd ar ôl i'w haelodaeth ddod i ben.

Byddwn yn cadw data personol aelodau'r cyhoedd sy'n cysylltu â'r Panel am gyfnod o 6 blynedd ar ôl y cyswllt diwethaf â'r Panel

Cedwir recordiadau o weddarllediadau ar-lein am 3 mis. Ar ôl hynny, cedwir copi o'r recordiad am 6 blynedd ychwanegol.

 

  1. Eich Hawliau Diogelu Data

Mae gennych yr hawl i:

  • Gael mynediad i'r data personol y mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ei brosesu amdanoch
  • Cywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn
  • Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau gwybodaeth

 

Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosibl y bydd gennych yr hawl i:

  • Gwrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Cyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Trosglwyddo Data

 

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â:

 

Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Caerfyrddin

Neuadd y Sir

Caerfyrddin

SA31 1JP

 

E-bost: diogeludata@sirgar.gov.uk

Ffôn: 01267 224127

 

Gellir cael manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â chyfarwyddyd pellach ynghylch y Ddeddfwriaeth Diogelu Data ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

 

www.ico.org.uk

Dweud eich dweud...

Rydym yn croesawu eich sylwadau ac rydym yn barod i ystyried unrhyw gwestiynau a gyflwynir i ni at ein cyfarfod nesaf. Cofiwch os gwelwch yn dda – rhaid bod y cwestiwn yn ymwneud â gwaith y Panel er mwyn iddynt ei ystyried. E-bostiwch ni panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk

Hefyd, gellir cysylltu ag aelodau unigol o'r Panel yn uniongyrchol.