Y Comisiynydd

Etholwyd Dafydd Llywelyn yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ym mis Mai 2016. Cafodd ei ailethol ym mis Mai 2021 i wasanaethu am bedair blynedd arall yn y swydd. Mae'r rôl yn cynnwys sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn atebol ar ran trigolion Dyfed-Powys.

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion cymunedau yn cael eu diwallu mor effeithiol â phosibl ac am wella perthnasoedd lleol trwy feithrin hyder ac adfer ymddiriedaeth. Maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ystod o asiantaethau ar lefel leol a chenedlaethol i sicrhau dull unedig o atal a lleihau troseddu.

Mae eu dyletswyddau'n cynnwys:

  • Penodi'r Prif Gwnstabl
  • Y pŵer i alw ar y Prif Gwnstabl i ymddeol neu ymddiswyddo
  • Sicrhau bod heddlu effeithlon ac effeithiol yn cael ei gynnal ar gyfer yr ardal
  • Pennu praesept a chyllideb yr heddlu
  • Llunio cynllun yr heddlu a throseddu
  • Cyfrifoldeb am ddal cyllidebau diogelwch cymunedol a chomisiynu gwasanaethau

Edrychwch ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i gael rhagor o wybodaeth.

 

Lawrlwytho

Cofrestru cwynion yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu (.xlsx)

Dweud eich dweud...

Rydym yn croesawu eich sylwadau ac rydym yn barod i ystyried unrhyw gwestiynau a gyflwynir i ni at ein cyfarfod nesaf. Cofiwch os gwelwch yn dda – rhaid bod y cwestiwn yn ymwneud â gwaith y Panel er mwyn iddynt ei ystyried. E-bostiwch ni panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk

Hefyd, gellir cysylltu ag aelodau unigol o'r Panel yn uniongyrchol.