Holwch Comisiynydd yr Heddlu

Eisiau gwybod beth mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ei wneud? Hoffech chi ofyn cwestiwn i'r Comisiynydd?

Gellir cyflwyno cwestiynau ynghylch unrhyw fater sy'n ymwneud â rôl y Comisiynydd megis cyllideb yr heddlu, ystâd yr heddlu a sut y mae'n monitro gwaith y Prif Gwnstabl.

Yna, bydd aelodau'r panel yn rhoi'r cwestiynau i'r Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn ystod eu cyfarfod nesaf.

Mae tri chwestiwn eisoes wedi'u cyflwyno gan y cyhoedd mewn da bryd ar gyfer y cyfarfod sy'n cael ei gynnal yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin ddydd Iau, 16 Tachwedd.

Gall aelodau'r Panel hefyd gyflwyno eu cwestiynau eu hunain i'w rhoi i Mr Llywelyn, sy'n mynychu pob cyfarfod.

Bydd yr holl gwestiynau'n cael eu cyhoeddi ar yr agenda, a fydd ar gael tua phum diwrnod cyn y cyfarfod.

Cafodd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ei sefydlu i herio a chraffu ar waith y Comisiynydd.

Mae'n cynnwys 14 aelod – tri o bob un o'r pedwar awdurdod lleol yn ardal Dyfed-Powys, a dau aelod annibynnol cyfetholedig.

Meddai'r Cynghorydd Alun Lloyd Jones, Cadeirydd y Panel: "Ein rôl yw craffu ar Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac rydym yn hapus i gyflwyno barn y cyhoedd neu unrhyw ymholiadau sydd ganddynt."

Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu eu cyflwyno ar ffurf ysgrifenedig i panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod nesaf y Panel.

Dweud eich dweud...

Rydym yn croesawu eich sylwadau ac rydym yn barod i ystyried unrhyw gwestiynau a gyflwynir i ni at ein cyfarfod nesaf. Cofiwch os gwelwch yn dda – rhaid bod y cwestiwn yn ymwneud â gwaith y Panel er mwyn iddynt ei ystyried. E-bostiwch ni panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk

Hefyd, gellir cysylltu ag aelodau unigol o'r Panel yn uniongyrchol.