Panel am gael atebion ynghylch costau gwersyll lloches Penalun

Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys am gael atebion ynghylch costau o ganlyniad i'r galw am blismona ychwanegol mewn gwersyll ceiswyr lloches yn Sir Benfro.

Bydd y cwestiwn yn cael ei godi yng nghyfarfod y Panel yr wythnos hon, a fydd yn cael ei gynnal fel cyfarfod rhithwir am 10.30am ddydd Gwener, 5 Chwefror.

Bydd aelod o'r Panel, y Cynghorydd Keith Evans, yn gofyn i Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys faint mae wedi'i gostio i blismona'r gwersyll ym Mhenalun, a gafodd ei ddefnyddio gan y Swyddfa Gartref i gartrefu ceiswyr lloches ym mis Medi.

Mae'r gwersyll wedi bod yn destun cryn dipyn o sylw, gan ddenu protestiadau a chreu tensiynau yn y cymunedau cyfagos.

Mae'r Cynghorydd Evans yn bwriadu gofyn i'r Comisiynydd pa gamau y mae ef wedi'u cymryd yn sgil y galw am blismona ychwanegol, a chael sicrwydd nad yw hyn wedi cael effaith andwyol ar blismona rhannau eraill o ardal yr heddlu.

Mae'n un o gyfres o faterion y bydd y Panel yn eu codi yn y cyfarfod ddydd Gwener.

Bydd yr Aelodau hefyd yn clywed y Comisiynydd yn amlinellu ei gynlluniau ar gyfer y praesept plismona sy'n cael ei gasglu fel rhan o'r Dreth Gyngor.

Mae'n ddyletswydd ar Aelodau'r Panel, sy'n cynrychioli'r pedwar awdurdod lleol yn ardal yr heddlu, i ddwyn Comisiynydd Dafydd Llywelyn, i gyfrif.

Maent yn cyfarfod ag ef yn rheolaidd i herio a chraffu ar ei waith.

Ni fydd cwestiynau cyhoeddus ar yr agenda ar gyfer dydd Gwener, ond mae pobl yn cael eu hatgoffa y gallant gyflwyno cwestiynau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

Gellir anfon cwestiynau ar-lein, neu'n ysgrifenedig i panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 niwrnod cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Gwyliwch y gweddarllediad

Dweud eich dweud...

Rydym yn croesawu eich sylwadau ac rydym yn barod i ystyried unrhyw gwestiynau a gyflwynir i ni at ein cyfarfod nesaf. Cofiwch os gwelwch yn dda – rhaid bod y cwestiwn yn ymwneud â gwaith y Panel er mwyn iddynt ei ystyried. E-bostiwch ni panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk

Hefyd, gellir cysylltu ag aelodau unigol o'r Panel yn uniongyrchol.