05
2021
Pryd: 10.30yb
Lle: Rhith-Gyfarfod
Agenda:
1. YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL
2. DATGANIADAU O FUDDIANT
3. LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4 TACHWEDD 2020
4. MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)
5. CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD
5 .1 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS
“Pa gamau y mae'r Comisiynydd wedi'u cymryd yn sgil y galw am blismona ychwanegol yn y gwersyll ceiswyr lloches ym Mhenalun, Sir Benfro, gan ddeall a gwerthfawrogi'n llwyr i hyn ddigwydd oherwydd amgylchiadau a oedd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi neu'r Heddlu, ac a ydych, drwy eich sgyrsiau â'r Prif Gwnstabl, yn gallu rhoi sicrwydd nad yw'r plismona yng ngweddill ardal yr Heddlu wedi'i leihau o ganlyniad?”
5 .2 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS
“Adroddwyd yn ddiweddar yn y cyfryngau eich bod wedi sicrhau bod tua £200,000 ar gael i grwpiau Cymunedol yn ardal Heddlu Dyfed- Powys. Gyda'r pwysau ar gyllid cyhoeddus ar hyn o bryd, a ydych yn fodlon bod hyn yn ffordd dda o wario arian cyhoeddus?”
6. PRAESEPT YR HEDDLU
7. COST PLISMONA GWERSYLL CEISWYR LLOCHES YM MHENALUN

