Arolwg Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Gofynnir i bobl nodi'r materion yr hoffent fwyaf i Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ganolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod.
Nod y Panel, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o Dyfed-Powys, yw rhoi mwy o lais i bobl leol o ran sut mae'r heddlu'n gwasanaethu ein cymunedau.
Mae aelodau'r panel yn cefnogi gwaith y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, ond hefyd yn ei ddwyn i gyfrif.
Wrth iddynt fwrw ati i baratoi eu hamserlen ar gyfer 2019-20, maent am i bobl gael dweud eu dweud am y pethau y dylid gosod pwys arnynt.
Mae arolwg wedi'i lansio sy'n gofyn am farn pobl. Mae'r holiadur cryno hwn ar-lein ac mae hefyd yn gofyn beth mae pobl yn ei wybod am y panel a'i waith.
Gellir ei wneud ar-lein mewn ychydig funudau.