Panel Heddlu a Throseddu i herio blaenoriaethau plismona'r Comisiynydd
Bydd aelodau Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn holi Dafydd Llewelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, am ei flaenoriaethau ar gyfer plismona dros y tair blynedd nesaf.
Bydd y Panel yn cyfarfod ddydd Gwener 5 Tachwedd i adolygu a thrafod cynllun y Comisiynydd ar gyfer 2021-2025 lle mae'n nodi sawl maes blaenoriaeth i helpu i gadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel.
Bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw ar-lein o 10.30am, neu gall pobl ei wylio'n ddiweddarach, i glywed cwestiynau'r Panel wrth iddynt graffu ar y cynllun.
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan Gynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys ynghyd â dau aelod annibynnol.
Mae'r Aelodau'n gwahodd y Comisiynydd i'w cyfarfodydd fel y gallant herio ei waith a'i benderfyniadau.
Yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu drafft, dywed Mr Llewelyn mai ei nod trosfwaol yw cadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru'n ddiogel, a chefnogi pobl i gynnal ymddiriedaeth a hyder mewn plismona a chyfiawnder.
Mae'r blaenoriaethau y mae wedi'u nodi yn cynnwys cefnogi dioddefwyr troseddau, atal niwed i unigolion a chymunedau, a gwella hyder yn y system cyfiawnder troseddol.
Hefyd ar yr agenda ar gyfer cyfarfod dydd Gwener mae cwestiynau am adroddiad diweddar gan HMICFRS (Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Mawrhydi) a dynnodd sylw at anghysondebau yn ymagwedd yr heddlu at fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Bydd y Panel hefyd yn holi'r Comisiynydd i wirio'r cynnydd y mae ei Brif Gwnstabl wedi'i wneud i fynd i'r afael â thwyll - maes gwella arall a amlygwyd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Mawrhydi.