Panel Heddlu a Throseddu yn rhoi sylw i droseddau gwledig
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi croesawu'r sylw sy'n cael ei roi i droseddau gwledig a bywyd gwyllt ar draws ardal yr heddlu.
Mae aelodau'r panel wedi codi'r mater fel un o'i feysydd craffu allweddol, gan fanteisio ar y cyfle i holi ,Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ynghylch ei ymdrechion i fynd i'r afael â'r mater yng nghyfarfod diweddaraf y panel.
Dywedwyd wrthynt am y pwyslais sy'n cael ei roi ar atal a datgelu troseddau gwledig, yn ogystal â'r ymdrechion i ymgysylltu â'r gymuned wledig a chofnodi troseddau'n gywir.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae'r heddlu wedi ymdrin â thros 2,600 o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â ffermydd, bywyd gwyllt a throseddau gwledig eraill megis gyrru oddi ar y ffordd, gweithgarwch amheus, pryderon ynghylch iechyd meddwl a darparu cymorth i asiantaethau fel yr RSPCA.
Un thema glir yn ymateb y comisiynydd i'r panel oedd cydweithredu.
Croesawodd y Cynghorydd Les George, yr Aelod Arweiniol o'r Panel dros Droseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt, y cysylltiadau yr oedd y comisiynydd wedi'u meithrin â chyrff megis Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a Ffermwyr Ifanc, ond galwodd am fwy o ymwneud â chynghorau tref a chymuned.
Drwy gynrychioli ward wledig ar Gyngor Sir Powys, dywedodd y Cynghorydd George fod ganddo brofiad uniongyrchol o effeithiau troseddau gwledig.
"Mae cynifer o wahanol droseddau gwledig, nid yn unig yn erbyn ffermwyr ond yn erbyn y cyhoedd yn gyffredinol," dywedodd. "Poenydio defaid - rwyf wedi gweld pobl bron mewn dagrau pan oedd ganddynt ddefaid ag ŵyn ac roedd rhai pobl anghyfrifol wedi gadael i'w cŵn fynd ger y caeau. Mae pobl yn parhau i ddwyn defaid, ond ni fyddai hyn yn digwydd pe na fyddai rhywle iddynt fynd â'r defaid. Wedyn ceir baetio moch daear, cwrso ysgyfarnogod, hela cadnoid, gwenwyno adar ysglyfaethus - mae llawer o droseddau'n cael eu cyflawni yng nghefn gwlad.
"Ar ein cyngor cymuned, mae 75 y cant o'r pwyllgor yn ffermwyr neu'n bobl sy'n gweithio mewn ardaloedd gwledig - hoffwn gael cysylltiad mwy â'r cynghorau cymuned. Mae'n braf eich bod wedi cysylltu ag Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Ffermwyr Ifanc ac ati... ond rydym yn gobeithio gweld gwelliant a rhagor o gysylltiad â phobl wledig."
Gan ymateb, dywedodd Mr Llywelyn: "Gwrandewais ar undebau'r ffermwyr pan ddechreuais yn 2016 ac rwyf wedi cymryd rhai camau gweithredu - dyma un o'r pethau rwyf fwyaf balch ohono o ran cyflawni gwelliannau. O ran cynghorau cymuned, byddaf yn rhannu hynny â'r tîm troseddau gwledig."
Mae strategaeth Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer troseddau gwledig yn canolbwyntio ar blismona mewn nifer o feysydd - troseddau yn ymwneud â ffermydd a throseddau amaethyddol, troseddau treftadaeth, troseddau bywyd gwyllt, troseddau busnes a bwyd, amddiffyn pobl agored i niwed, arwahanrwydd mewn ardaloedd gwledig, twristiaeth, diogelwch ffyrdd, a throseddau difrifol a chyfundrefnol.
Mae pedwar swyddog yr heddlu a chwe swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yn canolbwyntio ar y meysydd hyn gyda chefnogaeth timau plismona bro.
Yn ddiweddar cyllidodd y comisiynydd astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, a lansiwyd yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, a geisiodd adborth gan ffermwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill am eu profiad o droseddau sy'n ymwneud â ffermydd, agweddau'r heddlu ac effeithiolrwydd mesurau atal troseddau.
Gellir gweld adroddiad llawn y comisiynydd i'r panel fel rhan o bapurau agenda'r amlinelliad y cyfarfod.
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cynnwys cynrychiolwyr o'r pedwar awdurdod lleol yn ardal y llu, ac mae ganddo ddyletswydd i ddal y comisiynydd yn atebol.
Yn ogystal â herio a chraffu ar waith y comisiynydd, gall y panel hefyd ofyn cwestiynau iddo ar ran y cyhoedd.
Gellir cyflwyno cwestiynau o ran unrhyw fater mewn perthynas â rôl y Comisiynydd megis cyllideb yr heddlu, ystâd yr heddlu a sut y mae'n monitro gwaith y Prif Gwnstabl.
Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu'n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod y panel.