Comisiynydd yn amddiffyn lefelau plismona yn Nyfed Powys
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi amddiffyn niferoedd yr heddlu ond wedi cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud i fwrw golwg fanwl ar adnoddau ar draws ardal yr heddlu.
Roedd Dafydd Llywelyn yn ymateb i aelod o'r cyhoedd yng nghyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yr wythnos hon, a ofynnodd a oedd ganddo gynlluniau i benodi heddweision ychwanegol yn dilyn praesept uwch ar gyfer yr heddlu yn y Dreth Gyngor a bennwyd yn ddiweddar.
Dywedodd Mr Llywelyn na ddylai cyllid yr heddlu o reidrwydd gyfateb i niferoedd yr heddlu, gan dynnu sylw at y ffaith bod mwy o heddweision a staff yn cael eu cyflogi yn Nyfed-Powys yn awr na phan ddechreuodd fel Comisiynydd yn 2016.
Roedd hefyd yn awyddus i nodi mai praesept Dyfed Powys oedd yr isaf yng Nghymru o hyd - ar gyfartaledd mae eiddo Band D yn cyfrannu tua £250 y flwyddyn at blismona ar hyn o bryd, sy'n cael ei gasglu fel rhan o'r Dreth Gyngor.
“Mae gan y Prif Gwnstabl fwy o adnoddau ar gael iddo nawr na phan ddechreuais yn y swydd," meddai.
“Rwy'n falch iawn o allu dweud nad yw lefel y toriadau yn Heddlu Dyfed-Powys wedi bod cyn waethed â'r hyn a welwyd yn genedlaethol.
“1145 yw nifer cyfartalog yr heddweision ers 2009-19; roedd yn 1186 yn 2009-10 cyn y cyni cyllidol, ac ar ei isaf yn 2012-13 sef 1103.
“Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2018-19 yn dangos bod 1135 o heddweision ar hyn o bryd.
“Ond nid nifer yr heddweision yw popeth – roedd 1859 o heddweision a staff pan gymerais i'r awenau a bellach mae 1930. Mae gan staff rôl bwysig iawn o ran plismona digidol ac ymdrin â throseddau a alluogir gan elfennau seiber, ac fel ymchwilwyr a dadansoddwyr – rhaid edrych yn ehangach na swyddogion â gwarant yn unig.
“Mae gennym ni hefyd 148 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) sy'n ffurfio rhan o'r timau plismona bro ehangach. Mae grant arbennig gan Lywodraeth Cymru yn cyfateb i hanner y gost. Y gymhareb ar hyn o bryd yw un PCSO i 10 swyddog â gwarant.”
Eglurodd Mr Llywelyn fod cyfran helaeth o'r praesept am eleni yn mynd i helpu'r heddlu i ysgwyddo baich annisgwyl cyfraniadau pensiwn, a drosglwyddwyd gan y Trysorlys, gan ychwanegu bil o £4.2 miliwn at gyllideb yr heddlu.
Eglurwyd problemau penodol gan Mr Llywelyn a'i brif gwnstabl, Mark Collins, o ran recriwtio yng ngogledd ardal yr heddlu, gan ddweud bod darn mawr o waith yn mynd rhagddo i roi sylw i'r galw ac i adnoddau.
Dywedodd Prif Gwnstabl Collins: "Mae problemau yng ngogledd Powys. Rydym ni wedi galw am rywrai fyddai'n symud yn wirfoddol, ac wedi cynnig cymhellion. Ond mae pump o recriwtiaid newydd ac mae ymgyrch recriwtio ar fin cael ei lansio.
“Gweithlu ystwyth a'r gallu i ddefnyddio ein hadnoddau'n hyblyg yw'r hyn rydym ni'n anelu tuag ato. “Rydym ni'n gwneud darn o waith cymhleth ar y galw er mwyn sicrhau bod gennym yr adnoddau cywir, ond rwyf am ddweud bod ein hamserau ymateb yn dda iawn a ni yw'r lle mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr o hyd.”
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cynnwys cynrychiolwyr o'r pedair sir yn ardal yr heddlu.
Dyletswydd y Panel yw dwyn y Comisiynydd Dafydd Llywelyn i gyfrif.
Mae'r Panel yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, a gall gyflwyno cwestiynau i'r Comisiynydd ar ran y cyhoedd.