Cyfarfod cyhoeddus yn Aberaeron i drafod troseddau gwledig
Bydd preswylwyr Ceredigion yn cael cyfle i drafod troseddau gwledig mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberaeron fis nesaf.
Mae'r cyfarfod wedi cael ei drefnu gan y Cynghorydd Lloyd Edwards, aelod o'r Panel Heddlu a Throseddu mewn ymateb i bryderon ynghylch troseddau gwledig yn y sir.
Bydd y tri aelod o Geredigion sydd yn rhan o'r Panel Heddlu a Throseddu yn bresennol yn y cyfarfod ynghyd â Dafydd Llywelyn, y Comisiynydd; Mark Collins, Y Prif Gwnstabl; Robyn Mason, Comander Uwcharolygydd Ceredigion; a Ben Lake, yr Aelod Seneddol a chynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Siop Fferm a Chaffi'r Moody Cow, Llwyncelyn, Aberaeron ddydd Mawrth, 14 Mai am 7.30pm.
Bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd godi unrhyw faterion sy'n ymwneud â throseddau gwledig megis dwyn da byw a pheiriannau gyda'r rheiny sydd yn gyfrifol am blismona yn y sir.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, Cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Dywedodd y Cynghorydd Edwards, trefnydd y cyfarfod: “Mae'r Panel Heddlu a Throseddu yn ystyried troseddau gwledig yn fater difrifol iawn ac o ganlyniad, wedi ei nodi fel mater i ganolbwyntio arno dros y flwyddyn sydd i ddod.
“Bydd y Panel yn canolbwyntio'n benodol ar faterion gwledig ond mae croeso i unrhyw un fynychu'r cyfarfodydd a chodi unrhyw faterion perthnasol."