Panel Heddlu a Throseddu yn rhoi sylw i droseddau gwledig
Mae aelodau Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi pwysleisio pa mor bwysig yw gwarchod ardaloedd gwledig rhag troseddau.
Roeddent yn siarad mewn cyfarfod diweddar o'r Panel, a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir, Powys, lle'r oedd Dafydd Llywelyn, sef Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn bresennol.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, Cadeirydd y Panel, fod gwir angen canolbwyntio ar ardaloedd gwledig gan gynnwys pentrefi bychain fel y rheiny yn yr ardal y mae'n dod ohoni yng Ngheredigion, sy'n 'bell o bobman'.
Dywedodd, "Mae anghenion gwahanol yng nghefn gwlad. Mae pobl yn dwyn defaid a gwartheg o hyd. Mae angen mawr am ragor o bresenoldeb yr heddlu yn yr ardaloedd gwledig."
Dywedodd Mr Llywelyn fod y maes hwn yn peri pryder y mae'r heddlu yn ymwybodol ohono, a'u bod yn gweithio'n galed i fynd i'r afael ag ef.
"Dyma pam rydym wedi llunio strategaeth troseddau gwledig. Rydym wedi datblygu tîm troseddau gwledig, ac wedi gwneud llawer o waith ymgysylltu mewn martau a marchnadoedd ar y cyd â heddlu gogledd Cymru," dywedodd y Comisiynydd.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Jones, cynrychiolydd o Sir Benfro, fod cyfathrebu â phobl mewn ardaloedd gwledig yn allweddol, ond nad oedd dulliau modern - megis y cyfryngau cymdeithasol - yn gweithio bob tro oherwydd diffyg band eang.
"Rwy'n derbyn y safbwynt hwnnw nad oes gennym fand eang ym mhob ardal," dywedodd Mr Llywelyn. "Un peth yr ydym yn ei ystyried fel rhan o'n strategaeth wledig, ar y cyd â'n Timau Plismona Bro, yw llunio rhwydweithiau allweddol a rhestri o randdeiliaid. Mae Timau Plismona Bro yn ymgysylltu mwy â'u cymunedau yn ogystal â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Dros y misoedd nesaf byddwn yn ystyried defnyddio gwasanaeth negeseuon uniongyrchol drwy ap, ynghyd â Twitter, Facebook a gwefan yr heddlu."
Dywedodd Mr Llywelyn fod yr heddlu hefyd yn cael trafodaethau â Chlybiau Ffermwyr Ifanc a Sioe Frenhinol Cymru, er mwyn ystyried ffyrdd o gyfathrebu yn y dyfodol.
"Rwy'n ymwybodol iawn o'u cyfraniad gwerthfawr," dywedodd.
Roedd y Panel yn trafod eitem ar Arolwg Troseddau Gwledig Cenedlaethol 2018, a oedd â'r nod o bwysleisio'r heriau penodol y mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu mewn perthynas â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Nododd yr adroddiad 10 canfyddiad allweddol mewn perthynas â chanfyddiad y cyhoedd, ofni troseddau, diffyg adrodd am droseddau, a'r gred bod yna ddiffyg cymorth a dealltwriaeth.
Gellir gweld yr adroddiad llawn, a materion eraill a drafodwyd gan y Panel, o dan y tab 'cyfarfodydd'.