24
2025
Pryd: 10:30 - 14:00
Lle: Neuadd y Sir , Llandrindod Wells, Powys
Agenda:
AGENDA
1. YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL
2. DATGANIADAU O FUDDIANT
3. LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 7FED HYDREF 2025
4. MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)
5. CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD
5 .1 CWESTIWN GAN MRS HELEN THOMAS
Rwy'n deall bod adroddiad wedi'i ddosbarthu ym mis Awst yn dilyn adolygiad annibynnol o'r trywanu yn gynharach yn y flwyddyn yn Ysgol Dyffryn Aman. Roedd yn cynnwys 11 argymhelliad ar gyfer dull amlasiantaeth at y ffordd ymlaen.
A yw'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi trafod cynnwys yr adroddiad gyda'r Prif Gwnstabl ac wedi tynnu sylw at unrhyw faterion i'r Llu fynd i'r afael â nhw?
5.2 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
Yng ngoleuni'r adborth cymunedol yn ardal Powys ynghylch lefelau amrywiol o hyfforddiant a chymorth i grwpiau Gwarchod Cyflymder Cymunedol, beth mae'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ei wneud i ddal y Prif Gwnstabl i gyfrif am sicrhau gwelliant yn y maes pwysig hwn?
5 .3 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
Beth mae'r Comisiynydd yn ei wneud, ar y cyd â'r Prif Gwnstabl, i sicrhau bod Swyddogion Addysg yr Heddlu yn gweithio'n effeithiol gyda Llysgenhadon Diogelwch ar y Ffyrdd Ysgolion, disgyblion, athrawon, a llywodraethwyr ysgolion i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw at y terfyn cyflymder 20MYA yng nghyffiniau ysgolion?
6. DIWEDDARIAD CYNNYDD YNGHYLCH CAMAU GWEITHREDU SY'N DEILLIO O ADRODDIAD PEEL DIWEDDARAF YR HEDDLU
7. DIWEDDARIAD COMISIYNU
8. DIWEDDARIAD DYFARNIADAU CYLLID GRANT 2024/2025 9. PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU
10. PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD
11. CYNLLUN BUSNES SWYDDFA'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU - ADRODDIAD CYNNYDD