29
2025
Pryd: 10:30
Lle: Y Siambr, Neuadd y Sir, Llandrindod Wells, Powys,
Agenda:
AGENDA
- YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL
- DATGANIADAU O FUDDIANT
- LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 CHWEFROR 2025
- MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)
- CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD
CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KAREN DAVIES
"Ar dudalen 9 o Gynllun yr Heddlu a Throseddu, o dan y pennawd '"Cynaliadwyedd" rydych chi'n nodi eich ymrwymiadau i
-
-
- Lleihau ôl troed carbon
- Cefnogi gwytnwch ecolegol
- Cefnogi prosiectau datgarboneiddio ac
- Annog gweithio mewn partneriaeth i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
-
Sut ydych chi'n bwriadu cyflawni'r ymrwymiadau hyn? A yw
hyn yn cynnwys cael hyd i drydan a nwy y tu allan i'r fframwaith
cenedlaethol? Beth fyddai'n ystyr 'llwyddiant' o ran yr
ymrwymiadau hyn?"
CWESTIWN GAN CYNGHORYDD SIMON WRIGHT
Mae Blaenoriaeth 2 (Cefnogi Cymunedau Diogel trwy Atal Niwed) yn eich Cynllun Heddlu a Throseddu presennol yn rhoi pwyslais ar sicrhau bod "Gwasanaethau plismona yn weladwy ac yn hygyrch, gan ddiwallu anghenion y cymunedau trefol a gwledig y maent yn eu gwasanaethu."
Er mwyn hwyluso hyn, a oes achos i'w wneud dros gynyddu'r pwerau sydd gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn Nyfed-Powys ar hyn o bryd i'r uchafswm a ganiateir o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002, a thrwy hynny eu galluogi i ddarparu mwy o gefnogaeth i'r swyddogion â gwarant y maent yn gweithio ochr yn ochr â nhw ac sydd dan
bwysau gormodol.
6. PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU
7. PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD
8. CYNLLUN BUSNES SWYDDFA'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU - ADRODDIAD CYNNYDD
9. NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I GYNLLUN BUSNES OPCC
10.ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL