11
05
2021

When: 10.30yb

Where: Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Agenda

Gwyliwch y gweddarllediad

 

1. YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL.

2. DATGANIADAU O FUDDIANT.

3. LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30AIN GORFFENNAF, 2021.

4. MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI).

5. CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

5 .1 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD HELEN THOMAS

“Bydd y Comisiynydd yn ymwybodol bod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi adroddiad ar 17 Medi yn tynnu sylw at ddull anghyson yr Heddlu o fynd i'r afael â thrais tuag at fenywod a merched, ac yn annog yr Heddlu i flaenoriaethu'r mater. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 5 argymhelliad i wella'r sefyllfa. A fyddai'r Comisiynydd yn gallu cadarnhau pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn? Sut y bydd yn monitro cynnydd dros amser i sicrhau bod hyn yn parhau i gael ei weithredu yn y dyfodol?”

5 .2 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD LES GEORGE

“Ym mis Awst 2021, cyhoeddodd AHGTAEM adroddiad a oedd yn asesu’r cynnydd a wnaed gan heddluoedd yn genedlaethol o ran gweithredu’r argymhellion o’i adroddiad yn 2019 ar ymateb yr Heddlu i dwyll. Mae’r adroddiad newydd hwn yn nodi nad yw’r holl argymhellion gwreiddiol wedi’u gweithredu ac nad oes digon wedi newid. Gan hynny, mae’r adroddiad newydd hwn yn gwneud tri argymhelliad pellach. Mae dau ohonynt wedi’u cyfeirio’n benodol at Brif Gwnstabliaid. Dylid fod wedi cydymffurfio â’r ddau argymhelliad erbyn y cyfarfod hwn. A all y Comisiynydd gadarnhau bod DyfedPowys wedi cydymffurfio’n llwyr â’r holl argymhellion yn y ddau adroddiad sy’n berthnasol iddo? Sut mae’r Comisiynydd wedi bodloni ei hun mai dyma’r sefyllfa? Sut fydd y Comisiynydd yn parhau i fonitro cynnydd gan yr heddlu yn hyn o beth er mwyn sicrhau nad yw’n ffaelu’r dioddefwyr twyll yn y dyfodol?”

6. CWESTIWN Â RHYBUDD I'R PANEL GAN MR. R. HUISH

“Gomisiynydd, rydych yn ymwybodol o'r holl honiadau o dwyll ac arferion llwgr a wnaed yn erbyn nifer o fanciau'r Stryd Fawr sy'n deillio o arferion bancio yn y gorffennol. O safbwynt y dioddefwyr, nid yw'n ymddangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn barod i ymchwilio i honiadau o'r fath neu nad oes ganddo'r adnoddau i wneud hynny'n ddigonol. A yw'r Comisiynydd yn cytuno ei bod yn bwysig bod gan y rheiny sydd wedi dioddef troseddau o'r fath ffydd yng ngallu'r heddlu i ymchwilio'n drylwyr i'w cwynion? O ystyried cyfrifoldeb y Comisiynydd i gefnogi dioddefwyr a dwyn pobl gerbron y llysoedd, a fydd e'n cefnogi ceisiadau’r rheiny sydd wedi dioddef twyll o'r fath yn ardal Dyfed-Powys am ddefnyddio Heddlu allanol sydd â mwy o brofiad o ymdrin ag achosion o'r fath i ymchwilio i'r cwynion hyn? Os nad yw'n cytuno ynghylch defnyddio Heddlu allanol, sut y bydd yn cefnogi'r dioddefwyr hyn?”

7. CYNLLUN HEDDLU A THROSEDDU.

8. PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD.

9. TREFNIADAU ARIANNU GRANT Y COMISIYNYDD.

10. PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD.