11
04
2020

When: 2yh

Where: Rhithwir

Agenda

Gwyliwch y gweddarllediad

1. YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

2. DATGANIADAU O FUDDIANT

3. LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 GORFFENNAF 2020

4. MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

5. CWESTIWN Â RHYBUDD I'R PANEL GAN S.J., POWYS
“A oes gan Mr Llywelyn unrhyw gynlluniau i fuddsoddi arian ac adnoddau yn ein Gorsafoedd Heddlu llai ar draws ardal Powys? Er enghraifft, y Gelli Gandryll, Llanfair-ym-Muallt, Crucywel, Llanandras ac ati? Yn sgil y cynnydd yn nifer yr Heddweision, mae’n rhaid bod modd cael rhagor ohonynt yn ôl yn ein gorsafoedd bach?”

6. CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

6 .1 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ALUN LLOYD JONES
“Gomisiynydd, ydych chi'n cytuno bod diogelu pobl ifanc agored i niwed sy'n gadael gofal yn fater pwysig y mae gan yr heddlu rôl mewn perthynas â hyn. Os ydych chi'n cytuno, sut ydych chi'n sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn perfformio'r rôl honno'n briodol a beth ydych chi wedi'i ddysgu yn sgil craffu ar y modd y mae'r llu'n gweithredu ac am gryfderau a gwendidau ymagwedd y llu. Pa newidiadau (os oes rhai) yr hoffech eu gweld o ran ymagwedd y llu."

6 .2 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE
“Mae effaith Covid wedi bod yn amlweddog a gallai newid agweddau ar blismona gweithredol yn y dyfodol. Mae swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu eisoes yn cario'r offer angenrheidiol i amddiffyn eu hunain ac ymgymryd â'u gwaith. A yw'r Comisiynydd yn ymwybodol o unrhyw astudiaethau sy'n cael eu cynnal sy'n ymwneud â gofynion offer ar gyfer y dyfodol sy'n deillio o'r pandemig, megis helmedau amddiffynnol? Beth yw barn y Comisiynydd am y goblygiadau ariannol a'r goblygiadau eraill? Hefyd o ran trafnidiaeth mae materion posibl, er enghraifft, yr angen i wahanu swyddogion yn gorfforol oddi wrth ei gilydd ac oddi wrth bobl sydd wedi’u harestio? Mae twf hefyd mewn cerbydau trydanol ar
gyfer trafnidiaeth. Pa brosesau sydd ar waith ar gyfer cwmpasu'r anghenion cymorth posibl ar gyfer plismona yn Nyfed Powys yn y dyfodol?”

7. YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

8. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR YMATEB I'R PANDEMIG CORONAFEIRWS

9. CYNNYDD YN ERBYN Y CYNLLUN HEDDLU A THROSEDDU

10. PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD

11. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM ADRODDIADAU MAN CRAFFU DWYS

12. Y PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD