01
25
2019

When: 11.15yb

Where: Neuadd y Sir, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Agenda

1. YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

2. DATGANIADAU O FUDDIANT

3. LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16EG TACHWEDD 2018

4. MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

5. CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD

5 .1 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD LES GEORGE
“Wrth imi fynychu gweithgareddau yn fy ward, daw pobl ataf yn rheolaidd i sôn am achosion difrifol ac annifyr o droseddau gwledig. Dywedir wrthyf fod achosion parhaus o ddwyn da byw, dwyn cerbydau tir garw, a nifer cynyddol o achosion o dipio anghyfreithlon a phoeni defaid. Mae’r problemau hyn yn unig yn amharu ar fywydau pobl onest yn yr ardaloedd gwledig ond nawr maent hefyd yn profi fandaliaeth ddifrifol wedi’i threfnu gan grwpiau sy’n gwrthwynebu ffermio da byw. Fel Comisiynydd, a allwch roi sicrwydd i’r Panel y byddwch yn sicrhau bod digon o gyllid ar gael i’r prif gwnstabl er mwyn mynd i’r afael â’r problemau hyn? Pa gamau y byddwch yn eu
cymryd i sicrhau bod y Prif Gwnstabl a’i swyddogion yn rhoi blaenoriaeth uchel i’r problemau hyn?”

5 .2 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
“Sut bynnag y bydd y sefyllfa o ran Brexit yn datblygu dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf, mae nifer o uwchswyddogion yr heddlu wedi rhybuddio y gallai fod cryn effaith ar heddluoedd ledled y DU, gan gynnwys tarfu ar drafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus a’r perygl o aflonyddwch sifil. Beth ydych chi’n ei wneud fel Comisiynydd i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys mor barod ag y gall fod ar gyfer pob digwyddiad posibl, boed hynny’n ‘Brexit heb fargen’ ddiwedd mis Mawrth, gohirio Brexit tan ryw ddyddiad yn y dyfodol, refferendwm arall neu ganslo Brexit hyd yn oed?”

5 .3 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE
“Mae adroddiadau diweddar wedi dangos bod rhai Comisiynwyr yn cyfeirio adnoddau tuag at droseddau ar lefel
isel mewn ymateb i’r galw gan y cyhoedd, ar draul troseddau mwy difrifol a chyfundrefnol. A all y Comisiynydd roi sicrwydd bod cydbwysedd addas o ran dyrannu adnoddau Dyfed-Powys?”

6. CWESTIWN Â RHYBUDD I'R COMISIYNYDD GAN P.D.R. O SIR GAERFYRDDIN
“Pan oeddwn wedi ceisio cwyno i Heddlu Dyfed-Powys yn ddiweddar ynghylch twyll gwerth miliynau o bunnoedd oedd yn digwydd yn yr ardal, cefais fy nghyfeirio at Action Fraud. A yw hyn yn golygu nad oes gan Heddlu Dyfed-Powys adnoddau i ymchwilio i droseddau o’r fath?” Beth mae’r Comisiynydd yn ei wneud i sicrhau bod gan Heddlu
Dyfed-Powys yr adnoddau priodol i ddiogelu ei drigolion rhag twyll o’r fath?”

7. ARIANNU TEG AR GYFER PLISMONA GWLEDIG

8. PRAESEPT YR HEDDLU

9. PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD

10. COFNODI DATA TROSEDDAU - ADRODDIAD GAN AROLYGIAETH CWNSTABLIAETH A GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB EI MAWRHYDI