03
2019
When: 10.30yb
Where: Neuadd y Sir, Aberaeron, Ceredigion
Agenda
1. YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL
2. DATGANIADAU O FUDDIANT
3. PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y PANEL
4. LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 26AIN EBRILL 2019
5. MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)
6. CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD
6 .1 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS
Roeddwn yn bwrw golwg drwy adroddiad gan Gymdeithas y Gyfraith yn ddiweddar a deuthum ar draws darn a oedd yn cyfeirio at ddefnydd offeryn asesu risg niwed gan heddluoedd amrywiol.
1. Gomisiynydd, a allech gadarnhau pa ddefnydd y mae Heddlu Dyfed-Powys yn ei wneud o algorithmau o’r fath ar hyn o bryd?
2. A yw eu caffael a’u defnyddio yn cydymffurfio â’r saith argymhelliad a gynhwysir yn adroddiad y Comisiwn?
3. Os nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cydymffurfio, pa gamau y byddwch chi’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn eu cymryd i ddal y Prif Gwnstabl yn atebol er mwyn sicrhau y
bydd yn cydymffurfio yn y dyfodol?
4. Ar dudalen 8 eich Cynllun Heddlu a Throseddu, Gomisiynydd, rydych yn pwysleisio eich ymrwymiad i wneud y defnydd mwyaf posibl o dechnoleg. Wrth edrych yn ôl, a ddylid gosod amod ar hyn er mwyn ystyried y peryglon a nodwyd yn adroddiad y Comisiwn?
7. CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU O'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD
7 .1 CWESTIWN GAN R.R.
Beth yw’r cynlluniau o ran penodi swyddogion ychwanegol yr heddlu yn dilyn y cynnydd enfawr ym mhraesept yr heddlu yn ddiweddar? Yn benodol, faint o swyddogion ac ym mha
fannau?
8. ADRODDIAD PEEL HMICFRS
9. ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU
10. IECHYD MEDDWL A PHLISMONA
11. PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD
12. ADBORTH O GYFARFOD BWRDD ATEBOLRWYDD YR HEDDLU
13. ADBORTH O GYFARFOD TROSEDDAU GWLEDIG CEREDIGION
14. YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL