11
16
2018

When: 10.30yb

Where: Y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Agenda

GWYLIWCH Y GWEDDARLLEDIAD

 

1. YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

2. DATGANIADAU O FUDDIANT

3. LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27AIN GORFFENNAF 2018

4. MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

5. CWESTIWN Â RHYBUDD I'R PANEL GAN A.T. O SIR GAERFYRDDIN
“Roeddwn i'n synnu gweld nad yw'r panel yn cynrychioli'r gymdeithas y mae'n ei gwasanaethu. Dim ond un fenyw hŷn â chroen gwyn sydd ar y panel ac mae'r gweddill yn ddynion hŷn â chroen gwyn. A ellid rhoi system ar waith er mwyn sicrhau bod aelodau'r panel yn adlewyrchiad gwell o'n cymdeithas? Dylai'r system hon sicrhau bod menywod ifancach ar y panel, yn enwedig mamau sydd â chyfrifoldebau o ran gofal plant, aelod o'r panel sy'n perthyn i'r grŵp Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, aelod o'r panel sy'n anabl ac aelod o'r panel sy'n perthyn i'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Pam y penderfynwyd y dylai'r panel gynnwys cynghorwyr sir, oherwydd mae'r rhain yn bennaf yn ddynion hŷn, strêt â chroen gwyn sydd wedi ymddeol. Mae gennym gymdeithas batriarchaidd iawn o hyd lle mae hiliaeth a rhywiaeth strwythurol a sefydliadol yn bodoli ac nid yw'r panel hwn yn gwneud dim i geisio mynd i'r afael â hyn. Gan fod mwyafrif aelodau'r panel yn cynrychioli
yn bennaf un grŵp o'n cymdeithas amrywiol, golygir eu bod yn debygol o ddangos tueddiadau yn yr isymwybodol yn erbyn grwpiau penodol a gall hyn gyfrannu at wneud penderfyniadau gwael a gwahaniaethu yn erbyn y grwpiau hynny o bobl.”

6. CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD:

6 .1 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS
Troseddau Ieuenctid
“Nododd y Gweinidog Cyfiawnder mewn adroddiad diweddar fod nifer y bobl ifanc sy'n eu cael yn euog o droseddau yn ardal Ceredigion wedi lleihau'n sylweddol dros y 12 mlynedd diwethaf. Mewn gwirionedd, mae'r nifer 75% yn is. Mae'r ffigurau ar gyfer 2017 yn dangos bod 37 o bobl wedi troseddu am y tro cyntaf. A oes gan y Comisiynydd ddata cyffelyb ar gyfer gweddill ardal y llu? Mae'r Comisiynydd yn gwario swm sylweddol o arian ar
gynlluniau i gefnogi ein Hieuenctid ac atal troseddu. Os yw data'n dangos lleihad tebyg yng ngweddill ardal y llu ac o gofio'r pwysau enfawr ar gyllidebau, a fydd y Comisiynydd yn lleihau'r adnoddau a ddyrannwyd i'r maes gwaith hwn?”


6 .2 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS
DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018
“Er y derbynnir ei bod yn amhosibl rhagweld yn fanwl gywir y gofynion a allai fod ar y llu yn y dyfodol, yn enwedig yn sgil digwyddiadau a thrychinebau unigryw, gellid dadlau nad oedd rhywfaint o'r rhagolygon cyllidebu ar gyfer 2017-2018 mor gadarn ag y gallent fod. Pa gamau y mae'r Comisiynydd yn eu cymryd i sicrhau y bydd rhagolygon o'r fath mor gadarn ag y bo'n rhesymol yn y dyfodol?”


6 .3 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS
DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018
“Ymddengys fod cymhariaeth o'r asedau a'r rhwymedigaethau a ddangosir yn y datganiad cyfrifon ar gyfer 16/17 a 17/18 yn dangos gwanhad sylweddol o ran iechyd ariannol cyffredinol y gyllideb. A yw hyn yn rhan o duedd hirach ac os felly, pa gamau y mae'r Comisiynydd yn eu cymryd i'w wrthdroi?”

6 .4 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS
DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018
“Ar dudalen 69 y datganiad cyfrifon, o dan y pennawd 'incwm segmentol' nodwyd ffigwr o £1,067,000 gan y 'Gyfarwyddiaeth Adnoddau'. A allai'r Comisiynydd esbonio â beth a wnelo hyn? A yw'r Comisiynydd yn fodlon y gwneir pob ymdrech i fanteisio i'r eithaf ar ffrydiau incwm sydd ar gael er mwyn lleihau pwysau cyllidebol a'r baich ar drethdalwyr lleol.”


6 .5 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS
DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018
“O ystyried agwedd y Llywodraeth bresennol at ariannu'r gwasanaeth heddlu yn genedlaethol, a fu unrhyw awgrym fod grant atodol y Swyddfa Gartref ar gyfer pensiynau o dan fygythiad? O ystyried y potensial i rwymedigaethau pensiynau roi baich sylweddol ar y gyllideb, a ystyrir materion o'r fath wrth ganiatáu ymddeol yn gynnar? Pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau'r risgiau y mae'r materion hyn yn eu hachosi?”

6 .6 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEITH EVANS
DATGANIAD CYFRIFON AR GYFER 2017-2018
“Ar dudalen 81 o'r datganiad cyfrifon yn y golofn 'cyfanswm yr asedau dros ben' nodir £1,437,000 ar gyfer ‘asedau a ailddosberthir’. A fyddai'r Comisiynydd gystal â chadarnhau beth y mae hyn yn ei olygu a pha asedau y mae'n cyfeirio atynt.”

6 .7 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
“Beth yw eich dealltwriaeth o annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl a sut y mae hyn yn effeithio, yn ymarferol, ar sut rydych yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif?”

6 .8 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
“Esboniwch yn benodol sut rydych yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif mewn perthynas â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol, Gwrthderfysgaeth, Gweithrediadau Arbennig a Gweithgareddau Cudd-wylio.”

6 .9 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
“Esboniwch y strwythurau llywodraethu rydych wedi'u rhoi ar waith a sut rydych yn sicrhau eu bod nhw wedi'u halinio'n strategol â'r prif risgiau y mae'r llu'n eu hwynebu.”

6 .10 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
“Sut rydych yn monitro cryfder y cysylltiad rhwng eich Cynllun Heddlu a Throseddu a'r hyn y mae swyddogion gweithredol yn ei wneud o ddydd i ddydd? Sut rydych yn sicrhau bod swyddogion gweithredol yn ymwybodol o'ch blaenoriaethau?”


6 .11 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
“Sut rydych yn derbyn gwybodaeth gan y llu ynghylch ei berfformiad? A roddir y wybodaeth ichi gan y Prif Gwnstabl a'i swyddogion neu a oes gennych chi a'ch swyddogion fynediad uniongyrchol i ddata rheoli'r llu? Os rhoddir y wybodaeth ichi gan y Prif Gwnstabl a'i swyddogion, sut rydych yn sicrhau bod y wybodaeth sy'n dod i law gan y llu yn gywir?”

6 .12 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
“Rhowch enghreifftiau o adegau pan rydych, trwy ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif, wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl Dyfed-Powys. A oes unrhyw adegau pan rydych yn teimlo nad yw eich gweithredoedd wedi sicrhau'r nodau a ddymunwyd ac os felly, beth rydych wedi'i wneud i fynd i'r afael â hyn?”

6 .13 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM POWELL
“Yn dilyn cael cyfle i fynychu ac i arsylwi cyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu, rwy'n credu ei fod yn deg dweud fod lefel y presenoldeb y cyhoedd yn isel iawn (fel mewn cyfarfodydd o'r panel hwn). A fyddai'r Comisiynydd yn cytuno felly er mwyn sicrhau eu bod yn agored ac yn dryloyw, y byddai'n fwy priodol o lawer i gyfarfodydd o'r fath gael eu gweddarlledu (ac felly'n hygyrch i'r mwyafrif helaeth o drigolion) hyd yn oed os yw hynny ar draul cyfyngu ar nifer y lleoliadau addas i'w cynnal?”

7. CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU O'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD:

7 .1 CWESTIWN GAN A.B.
“A yw’n bryd i’r dreth gyngor gael ei defnyddio’n llai ar gyfer ariannu’r heddlu, a’i defnyddio’n hytrach ar gyfer ariannu cwmnïau diogelwch i blismona ein cymunedau yn lle hynny, gan nad oes gennyf i na’m cymdogion unrhyw hyder o gwbl yn yr heddlu mwyach, ac erbyn hyn nid ydym yn ffwdanu rhoi gwybod iddynt am droseddau sy’n ymwneud â chyffuriau yn ein hardal?”

7 .2 CWESTIWN GAN E & C.
“Sut ydych chi yn eich rôl fel Comisiynydd yr Heddlu, yn monitro gwaith Heddlu Dyfed-Powys o ran gorfodi’r terfynau cyflymder sydd ar waith y tu allan i ysgolion, megis ein hysgol ni yma yn Nhalgarth?”

7 .3 CWESTIWN GAN C.D.
“Pa fesurau sydd ar waith gennych, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, i sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys bolisi sy’n addas i’r diben er mwyn rhybuddio pobl ifanc ynghylch ffenomenon 'Perygl Dieithriaid?”


7 .4 CWESTIWN GAN C.D.
“Pa mor aml ydych chi, fel Comisiynydd Heddlu, yn cael diweddariad gan y Prif Gwnstabl ynghylch digwyddiadau o’r math hwn – a sut yr adroddir ynghylch effeithiolrwydd cyswllt a chyfathrebu ag awdurdodau addysg lleol, ysgolion a chymunedau lleol os bydd digwyddiadau’n codi?”

8. BLAENORIAETH 3 Y PANEL - CRAFFU AR GYNLLUN YR HEDDLU A THROSEDDU

9. PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD


10. BLAENORIAETH 2 Y PANEL - SUT Y MAE COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU YN DAL Y PRIF GWNSTABL I GYFRIF

11. BLAENORIAETH 3 Y PANEL - CRAFFU AR GYNLLUN YR HEDDLU A THROSEDDU - CAIS AM DYSTIOLAETH GAN
GYNGOR SIR CAERFYRDDIN

12. GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R
MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN  LYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.


13. CWYN YN ERBYN COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU