Y Panel

Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cefnogi ac yn craffu ar waith y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.  Mae'r Panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys; ac o leiaf ddau aelod annibynnol. Cyngor Sir Caerfyrddin yw awdurdod arweiniol y Panel.

Ein gwaith

Mae'r Panel yn cymryd lle Awdurdod yr Heddlu ac mae ganddo nifer o bwerau a chyfrifoldebau, gan gynnwys:

  • Adolygu cynllun heddlu a throseddu'r Comisiynydd
  • Adolygu cyllideb ddrafft flynyddol y Comisiynydd, a'r pŵer i roi feto ar lefel y praesept
  • Ymdrin â chwynion ynghylch y Comisiynydd neu ei ddirprwy
  • Craffu ar benderfyniadau a chamau gweithredu gan y Comisiynydd
  • Adolygu'r bwriad i benodi neu i ddiswyddo'r Prif Gwnstabl
  • Cefnogi gwaith y Comisiynydd
  • Rhoi adroddiadau neu argymhellion i'r Comisiynydd
  • Adolygu ymddygiad y Comisiynydd

Ni all y Panel graffu ar Heddlu Dyfed-Powys na'i waith.

I gael rhagor o wybodaeth am y Paneli Heddlu a Throseddu, edrychwch ar wefan y Swyddfa Gartref.

 

Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2022 - 23

Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd 2021 -22

Gwariant Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys 2020-21

Cwrdd ag aelodau'r panel

Dweud eich dweud...

Rydym yn croesawu eich sylwadau ac rydym yn barod i ystyried unrhyw gwestiynau a gyflwynir i ni at ein cyfarfod nesaf. Cofiwch os gwelwch yn dda – rhaid bod y cwestiwn yn ymwneud â gwaith y Panel er mwyn iddynt ei ystyried. E-bostiwch ni panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk

Hefyd, gellir cysylltu ag aelodau unigol o'r Panel yn uniongyrchol.